Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
8 Mai 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13908
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8576 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
16 |
59 |
Derbyniwyd y cynnig.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad am - Plac Porffor i Dorothy Miles, a gaiff ei hystyried yn arloeswr barddoniaeth BSL, yn ei thref enedigol, y Rhyl (26 Ebrill).
Gwnaeth Lee Waters ddatganiad am - Teyrnged i’r Athro David Marquand, cyn-Aelod Seneddol ac academydd.
Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad am - Gŵyl Mabon – gŵyl gerddoriaeth Gymraeg gyntaf y Rhondda, a gynhaliwyd yn Nhreorci (4 Mai).
Dechreuodd yr eitem am 15.51
NDM8569 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd’, a osodwyd ddydd Llun 15 Ionawr 2024.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.40
NDM8567 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021’ a gasglodd 15,160 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.31
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8570 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i 40 y cant o’r holl domenni glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru;
b) bod gan fwy o law a thywydd eithafol y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i breswylwyr sy'n byw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac ail-bwrpasu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill yn y tymor hir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth ar frys i sefydlu corff newydd i ddarparu rhaglen adfer addas i'r diben ar gyfer tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu ar frys yr arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn archwilio a chynnal a chadw, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol hirdymor am ddiogelu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill drwy waith adfer priodol.
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt 1 (a), dileu 'ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru' a rhoi 'dreftadaeth ddiwydiannol Cymru' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
41 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, dileu 'yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu' a rhoi 'yn credu y dylai Llywodraeth y DU barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
41 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
27 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
41 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8570 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru’n gartref i 40 y cant o’r holl domenni glo sy’n weddill yn y DU, a hynny o ganlyniad i ymelwa ar adnoddau naturiol Cymru;
b) bod gan fwy o law a thywydd eithafol y potensial i ansefydlogi'r tomenni hyn ymhellach; ac
c) y pryder a achosir i breswylwyr sy'n byw ger tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid i gefnogi'r gwaith o adfer ac ail-bwrpasu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill yn y tymor hir.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £44 miliwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal a gwella diogelwch tomenni glo ers 2022, wedi cyflwyno system o fonitro’n rheolaidd domenni categori C a D a bydd yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fodern ar gyfer tomenni nas defnyddir yn yr Hydref.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu ar frys yr arian ychwanegol angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn archwilio a chynnal a chadw, yn ogystal ag ysgwyddo’r cyfrifoldeb ariannol hirdymor am ddiogelu tomenni segur, pyllau glo brig a safleoedd ôl-ddiwydiannol eraill drwy waith adfer priodol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
16 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.25
Dechreuodd yr eitem am 18.30
NDM8568 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Hedfan fry: ailgyflwyno eryrod cynffonwen yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Mai 2024